llyfrau isod,[1] dangosir yno am lawer o awdwyr eraill ar y pethau hyn. Ond tybygol trwy'r cyfan i'n hynafiaid ddal yr ordinhad hon yn ol Gair Duw dros chwech neu saith gant o flynyddoedd. Canys dywedir mai eu hateb i Awstyn oedd y cadwent yr ordinhad hon a phethau eraill, fel ac y derbyniasent hwy er yr oes apostolaidd. Nid fy amcan i yw ymddadlu. Barna di ac eraill yn ol cydwybod.
Dial Awstyn.
P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi pallu cytuno ag Awstin?
T. Blin iawn a fu arnynt, druain, a gofidus. Cynhyrfodd Awstyn y Saeson i ddyfod yn erbyn y Cymry a dial arnynt, a dywedir iddynt ladd o gylch deuddeg cant o weinidogion a gwyr duwiol ar un waith, heb law llawer eraill. Gwelir hyn yn y llyfrau a nodwyd olaf. Mae Dr. Godwin, gynt esgob Llandaf, yn dywedyd am y pethau hyn hefyd.[2] "Llyncu'r llyffant yn lan."
P. Beth a wnaethant yn achos crefydd wedi y gofidiau blin hyn?
T. Dywed " Drych y Piif Oesoedd,' [3] i'r Brutaniaid sefyll o leiaf gant a hanner o flynyddoedd ar ol hyn oll yn wrolwych dros y wir ffydd, heb ymlygru â sored Pabyddiaeth; ond iddynt o'r diwedd, trwy gael eu perswadio yn raddol, lyncu'r llyffant yn lan, sef derbyn Pabyddiaeth
yn hollol, yn y flwyddyn 763. Wrth hyn yr