Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddengys i'r hen Gymry ddal yr efengyl dros saith can mlynedd, heb gael eu llwyr orchfygu gan goel grefydd Rhufain. Yr oedd ardaloedd mawrion a gwledydd ehang wedi mawr lygru ymhell cyn hynny.

Hywel Dda, Gerald Gymro, llyfrau diweddar.

P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi derbyn Pabyddiaeth?

T. Blin iawn o ran eu sefyllfa wledig, rhyfel a'r Saeson, a rhyfel yn eu plith eu hunain. Ond am grefydd, yr oeddent mewn ystyr yn agos i adael hynny heibio; oddieithr ychydig o Babyddiaeth. Eto byddai ambell wr rhagorol yn eu plith ar brydiau. Gwr enwog iawn oedd Howel Dda, yr hwn a fu dra defnyddiol yn y wlad o gylch y flwyddyn 940[1]

Gwr o Sir Benfro o enedigaeth

  1. Darfu i Howel Dda ysgrifennu cyfreithiau i'w ddeiliaid, canys Tywysog mawr yng Nghymru ydoedd. Mae llawer o sôn am gyfreithiau Howel Dda ymhlith y dysgedigion hyd heddyw. Y maent eto i'w gweled, yn Gymraeg ac yn Lladin. Ynghylch 1717 darfu i Sais. enwog o ran dysg a deall, ddysgu yr iaith Gymraeg mor berffaith fel y darfu iddo gyfieithu Cyfraith Howel Dda o'r iaith wreiddiol. sef y Cymraeg, i'r Lladin. Y gwr hwnnw oedd Dr. W. Wotton. yr hwn a fu farw cyn argraffu ei waith ei hun; ond wedi hynny daeth y llyfr allan yn drwsiadus a hardd. Tybygol fod y cyfreithiau hyn wedi eu troi i'r Lladin o'r blaen; ond yr oedd y gwr anghyffredin hwn am ddeall y gyfraith ei hun yn dda yn y iaith wreiddiol, er mwyn cael cyfieithiad cywir. Mae rhan fechan o'r cyfreithiau hyn yn "Nrych y Prif Oesoedd," yr ail argraffiad, dal. 136†. &c. Mae Mr. Moses Williams yn rhoi gair rhyfedd i Dr Wotton, o ran ei ddeall yn y iaith Gymraeg.‡
    History of Walcs,"p. 42. &c. Dr. Llewelyn's " Historical Account of the British Versions and Editions of the Bible, p. 42. Mr. F. Walters's Dissertations on the Welsh Language." p. 56. 70.
    ‡Yn llythyr cyflwyniad ei Gofrestr, yn 1717.