Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efrydydd hanes Cymru. Y rhan fwyaf gwerthfawr yw'r rhan sy'n trin y ganrif y gwyddai Joshua Thomas fwyaf am dani, sef y ganrif yn diweddu tua 1777.

Y mae llawer wedi ei chwilio ar hanes John Penry a'r Hen Ficer. Ond dengys Joshua Thomas gipolygon ar lawer o rai ereill,—Syr Thomas Middleton, yr Esgob Lloyd, Stephen Hughes, Thomas Gouge, ac yn enwedig ei arwr ef ei hun, sef Vavasour Powel. Nid oes neb wedi ei esgeuluso gymaint yn hanes Cymru a Vavasour Powel. Mwyn yw cael y darluniad ohono yn y gyfrol hon.