Jenkin Jones, wrth ei enw, yn un o'r Profwyr yn yr Act. [1]
Act Vavasour Powel.
P.
Pa fodd y gallwyd cael y fath Act er mwyn y Cymry yn unig?
T. Mae Dr. Walker yn dywedyd mai trwy Mr. V. Powel yn bennaf y cafwyd hi.[2]
Prynnu Beiblau wedi troi'r ficeriaid allan.
P. Pa fodd yr oeddent yn gwneyd am Feiblau yr amser hyn?
T. Pan y trowyd cynnifer o'r ficeriaid allan o'r Llannoedd, yr oedd achwyn mawr gan lawer fod y bobl yn cael eu gadael i droi yn Ailfedyddwyr, yn Babtistiaid, yn ddigred, &c. Ac y mae Dr. Calamy yn cadw'r achwyn yn y blaen hir flynyddau wedi hynny, lle mae'n dywedyd i'r holl ficeriaid gael eu troi allan trwy Gymru.
Ond y mae hyd yn oed Dr. Walker, yr hwn oedd wr o Eglwys Loegr, yn cyfaddef fod 127 o'r hen weinidogion wedi eu gadael yn eu lleoedd yn Neheubarth Cymru yn unig.[3] Ond mewn ateb i'r achwyniadau uchod, heb law'r hyn a nodwyd o'r blaen, mae Mr. Powel yn dywedyd, er profi pa fath ddiwygiad oedd yn y wlad, fod rhan fawr o'r argraffiad gynt o'r Beibl Cymraeg wedi ei brynnu, ac yn ol hynny, dau argraffiad yn ychwaneg, sef un o'r Testament Newydd, a'r llall o'r holl Feibl, ac o'r rhai'n ei fod yn credu fod o leiaf bump neu chwech mil wedi eu gwerthu. Wrth hyn, ebe fe, y gwelir fod crefydd yn cynyddu. Ac er fod y bobl mor ddigrefydd trwy Gymru yn