Prawfddarllenwyd y dudalen hon
brynnu'r Beibl a ddaeth allan yn 1630, nes daeth Mr. Powel ac eraill o'i frodyr i bregethu ar hyd y wlad.
T. Mae hynny yn eglur, ac yn dangos hefyd mor anuwiol ac anwybodus oedd y wlad, pan yr oedd mor ddifeiblau o'r blaen, ac nad oedd ei bris yn awr ond coron arian, fel y noda'r Ficar.
Bedyddwyr ac Independiaid.
P. A oedd llawer o Fedyddwyr yng Nghymru. yr amser hyn?
T. Oedd llawer iawn, ond yr oedd yr Independiaid a'r Bedyddwyr yn gymysg mewn cymundeb mewn llawer lle.
Tro ar yr olwyn.
P. Pa hyd y parhaodd pethau fel hyn?
T. Nid hir, canys yn 1660 ymddangosodd troell arall yn nhrefn rhagluniaeth.