Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI. CYFNOD YR ERLEDIGAETH,
1660-1700.

Yr Erledigaeth.

P. Beth oedd hynny?

T. Yr oedd erledigaeth wedi bod, yn fwy neu lai, ar yr Ymneillduwyr, y Bedyddwyr ac eraill, o'r dechreu, neu'n fuan ar ol y Diwygiad. Yn 1641 torrodd rhyfel rhwng y brenin Charles a'r Parliament. Gorchfygwyd y brenin, yn 1648. Bu farw Cromwel yn 1658. Ymhen ychydig wedyn daeth mab y brenin yn ol. Yr oedd ef wedi gorfod ffoi dros y mor wedi marw ei dad. Y 29 o Fai 1660 dychwelodd mab y brenin, sef Charles yr Ail, i dir Lloegr. Gelwir y dydd hwnnw yr Adferiad,[1] am adferu'r brenin i'w deyrnas. Yr oeddid wedi rhoi heibio drefn addoliad Eglwys Loegr ar ol 1648 gan mwyaf; ac nid oeddid dim yn arfer Llyfr y Weddi Gyffredin yn yr addoliad ond gan rai. Eithr yr oedd y pregethwyr yn yr eglwysi, a'r bobl hefyd, yn addoli yn lled debyg i'r modd y maent yn awr yn y tai cyrddau. Pan ddychwelodd y brenin, adnewyddwyd yr erledigaeth, canys trowyd y gweinidogion o'r llannoedd, a dychwelwyd i'w lle y ficeriaid a droasid allan yn 1649, &c., sef y rhai oedd yn fyw o honynt. A daeth erlid mawr ar bawb na chydffurfient ag Eglwys Loegr mewn addoliad.

Tystiolaeth Vavasour Powel.

P. A ellwch roi hanes byr pa fodd y bu yn yr amser hyn?

  1. "Restoration."