thynnu i'r dafarn ar eu hol wragedd tlodion, y rhai oeddent yn gwrando gair Duw, a chadwasant hwy yno hyd wedi nos, a hyd nes gorfu arnynt dalu am eu cwrw hwy.[1]
Tachwedd 5ed, 1688.
Yna cawsant fyned ymaith, mae'n debyg.
Dyma ran o'r hanes galarus y mae fe'n ei roddi o dan ei law ei hun. Eto, nid oedd hyn oll ond dechreuad gofidiau ar y Bedyddwyr yn neillduol, a llawer eraill hefyd, trwy Gymru. Os gwnaed hyn oll, a llawer ychwaneg, mewn un flwyddyn, ac ychydig yn rhagor, pa faint a fu eu dioddefiadau dros chwe mlynedd ar hugain yn ol hynny? sef hyd oni ddaeth y rhyddid dymunol trwy ddyfod y brenin William i mewn, yr hwn a ddaeth i dir Lloegr y pumed o Dachwedd, 1688, dydd o ymddangosiad daioni Duw, yr hwn a ddylai gael ei gofio, gyda diolchgarwch o'r galon, gan bob dyn duwiol trwy'r deyrnas. Rhoddais yma yr hanes byr hwn o ddioddefiadau y dyddiau hynny, am ei bod yn hanes gwirioneddol, wedi ei argraffu yn y dyddiau hynny, gan wr geirwir, yr hwn oedd yn adnabod cyflwr Cymru, mae'n bosibl gymaint, os nid yn well, na neb y pryd hwnnw; er ei fod ef ei hun yn gyfrannog o'r dioddefiadau. Felly yr wyf yn edrych ar ei dystiolaeth ef fel hyn, yn well na llawer o'r hyn ydym yn glywed trwy draddodiad ys pump neu chwe' ugain mlynedd.
Cân y Bedyddiwr.
Digwyddodd i mi yn ddiweddar gael cân, yr hon a wnaeth un o'r Bedyddwyr (fel y dywedwyd wrthyf fi) cyn dyfod y brenin William i'r deyrnas.
- ↑ Brief Narrative.