Gwell fod pobl gydwybodol,
O bob enw trwy y wlad.
A ddymunant i chwi lwyddiant,
Yn cael rhydd-did cyflawn rhâd.
Duw r'o ffyniant a gogoniant
Byth i'n brenin Iago'r Ail,
Caiff Neillduwyr trwyddo heddwch
A diogelwch rhag y Jail.
Tra llwyddiannus a diddanus
Fo'i deyrnasiad ef o hyd:
Pob daioni fo'n coroni
Brydain fawr hyd ddiwedd byd."
Clod Iago'r Ail.
Enw awdwr y gân hon oedd Richard Pugh; wrth ei gelfyddyd yr oedd yn saer ac yn felinydd, yn aelod yn y cymundeb cymysg yn Nhredwstan. Yr oedd yn byw y rhan olaf o'i amser ger llaw Castell Madog. Bydd rhai, o bosibl, yn rhyfeddu ei fod yn sôn fel y mae am Iago'r Ail. Yr achos oedd hyn. Yn 1687 darfu i'r brenin hwnnw gyhoeddi rhydd-did cydwybod mewn crefydd i'w holl ddeiliaid trwy'r deyrnas. Ei amcan ef trwy hynny oedd rhoi rhydd-did i'r Papistiaid; ond nid oedd dim o bawb trwy'r wlad yn gwybod hynny. Os ystyriwn i mor flin eu cyflwr yr oedd llawer iawn o'r blaen, nid yw ryfedd fod rhydd-did yn felus, a'u bod yn ddiolchgar am dano. Darfu i amryw, sef Ymneillduwyr ac eraill, trwy'r deyrnas, anfon eu diolch yn ysgrifenedig i'r brenin am eu rhydddid a'u llonyddwch.[1] Yr amser hynny y gwnaed y gân hon. A'r flwyddyn ar ôl hynny y daeth y brenin William i dir Lloegr, yr hwn a barodd roddi rhydd-did i'r Ymneillduwyr trwy gyfraith
- ↑ Crosby, vol. iii., P. 197. &c. B. Bennet's "Memorial of the Reformation," P. 327, &c.