y tir. Nid oedd dim o'r rhyddhad y flwyddyn o'r blaen trwy'r gyfraith, ond yn unig trwy ewyllys y brenin. Wedi hyn cafwyd tangnefedd trwy'r deyrnas.
Yn ol i ddyddiau'r erledigaeth.
P. Pa fodd y bu yn amser Charles yr Ail, wedi'r dechreu a soniwyd?
T. Parhau yn erlid ac yn carcharu yr oeddid. Ond am fod llawer eto yn y llannoedd o weinidogion nad oeddent, mewn cydwybod, yn gallu cytuno â defodau Eglwys Loegr mewn addoliad, gwnaed cyfraith i rwymo pob gweinidog i gydffurfio â'r Eglwys honno, yn ei holl addoliad, neu i droi allan o'r weinidogaeth yno. Yr oedd y gyfraith i ddechreu bod mewn grym y 24ain o Awst, 1662.
Troir Ddwy Fil allan.
P. Beth fu y canlyniad o hyn?
T. Trowyd allan o'r llannodd o gylch dwy fil, trwy Loegr a Chymru, am na chydffurfient; ac yr oedd llawer o honynt yn wyr enwog iawn o ran dysg a duwioldeb. Parodd hyn ofid nid bychan i'r gweinidogion a'u pobl, a mawr oedd y galar.
Beth a ddaeth o'r gweinidogion hynny?
T. Pregethodd y rhan fwyaf o honynt ar hyd tai lle gallent, ond byddid yn eu herlid ac yn eu carcharu, yn codi eu meddiannau ac yn eu mawr flino.
P A 'sgrifenwyd dim hanes o'r gweinidogion hyn?
T. Darfu i Dr. Calamy gasglu llawer iawn o'u hanes, mewn pedwar llyfr lled fawr, ac yn