Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1775 argraffwyd y cyfan yn ddau lyfr, ac yn fwy trefnus, gan Mr. Samuel Palmer, ger llaw Llundain.

Bywyd Vavasour Powel.

P. Ond beth a ddaeth o Mr. Vavasour Powel?

T. Fel yr wyf yn barnu iddo ef ymdrechu tu hwnt i bawb dros eneidiau Cymry, felly yr wyf yn meddwl iddo gael ei garcharu gan y Cymry yn fwy na neb arall. Mae'n dywedyd ei hun ei fod mewn 13 o garcharau. Efe a garcharwyd ar fyrr wedi'r brenin ddychwelyd yn 1660, a bu'n yn garcharor hyd oni ryddhawyd ef trwy angeu y 27ain o Hydref, 1670, yr hyn oedd yr unfed-flwyddyn-ar-ddeg o'i garchariad diweddaf. Buasai yn y carchar ar brydiau o gylch deng mlynedd-ar-hugain. Y pryd cyntaf y carchar wyd ef oedd yn sir Frecheiniog, lle y daliwyd et a 50 neu 60 o'i wrandawyr, o gylch deg o'r gloch o'r nos, ynghylch 1640. Felly yng Nghymru y carcharwyd ef gyntaf, ac yn sir Forganwg y carcharwyd ef ddiweddaf, er iddo, trwy'r gyf raith, gael ei symud yn garcharor oddi yno i Lundain, lle y gorffennodd ei holl filwriaeth.[1] Efe a garcharwyd hefyd yn sir Faesyfed ac yn sir Drefaldwyn, a lleoedd eraill trwy Gymru a Lloegr.

Llythyr olaf Vavasour Powel.

Yn ei glefyd diweddaf efe a 'sgrifennodd o Lundain at un o'i anwyl gyfeillion yng Nghymru, ac a ddywedodd wrtho ei fod yn bosibl mai hwnnw oedd y llythyr diweddaf a gelai oddiwrtho

  1. "His Life," pp. 188, 182, 126, 133, 189, 208.