ef. Ac felly bu. Yn ei glefyd diweddaf mynych weddiai dros bobl Duw, ac yn neillduol dros y Cymry.[1] Bu'n glaf o gylch mis, ac yn fawr ei orfoledd, yn golygu gogoniant tragwyddol ger llaw. Mawr yr annogai y duwiolion at gariad ac undeb. Ar ol ei farwolaeth gwnaed llawer o ganiadau galarnad ar ei ol. Mae deuddeg o honynt yn niwedd llyfr ei fywyd, yno gelwir ef yn broffwyd ac apostol y Cymry. Yn yr ysgrifen ar garreg ei fedd dywedir ei fod yn ddysgawdwr llwyddiannus i'r oes a aeth heibio; yn dyst ffyddlon yn yr oes bresennol, ac yn batrwm dewisol i'r oesoedd i ddyfod. Gan fod hanes ei fywyd yn Gymraeg, nid oes achos helaethu yma. Mae'r pethau hyn oll yno, a llawer yn ychwaneg.
Cân Benjamin Francis.
Pan ddarllennodd Mr. B. Francis lyfr hanes bywyd Mr. Vavasour Powel, yn 1754, gwnaeth iddo y gân ganlynol:
Wrth ddarllen hynod hanes
Gwr hoff a harddai 'i gyffes
Mor fuddiol, mi ryfeddais;
Daeth gwres i'm mynwes oer.
Cyhoeddafi chwi'n uchel,
Ei enw pêr oedd Powel:
Boed côf o'r enwog angel
Tra paro'r haul a'r lloer.
Gweinidog gwerthfawr ydoedd,
Yn fore fe lefarodd;
A pheraidd iawn y parodd,
Disgleiriodd hyd y bedd.
- ↑ Yn y llythyr sydd o flaen y llyfr a elwir "Bird in the Cage," hawdd yw deall fod serch a chariad Mr. Vavasour Powel yn fawr iawn at y Cymry. Os caniata amser a lle, mae'n bosibl y cyfieithiaf y rhan fwyaf o'r llythyr hwnnw er mwyn ei argraffu tua diwedd y llyfr hwn.