Ond er i'r hynod huno,
Mae'i waith e' eto'n ddeffro,
Canlynwn e'n glau yno,
Gan rodio'n hardd o hyd.
Mae'n awr yn seraff sanctaidd
Ymhlith y llu nefolaidd,
Gan foli, mewn gorfoledd,
O flaen yr orsedd wen.
Yn gwisgo'r eurin goron,
Ynghyd a'i gyd-ferthyron,
A'i holl gu hoff gyfeillion,
Yn llon o fewn i'r llen.
Mae'i gorff e' nawr yn gorwedd
Ys pedair ugain mlynedd,
A thair,[1] mewn priddlyd annedd
Fel enaint peraidd maith;
Ond gyd â'r wawr cyfodir
E' i eistedd, mewn rhyw ystyr,
I farnu ei euog farnwyr,
Yn gywir 'nôl eu gwaith.
Elias, gwelai'th gerbyd
Yn dod i'th godi i'r gwynfyd;
Deu'd arna'i ddau parth d'sbryd
Troi yn yr adfyd du.
Rhaid i mi ymadael,
Nes bloeddio'r nerthol angel;
Hapusrwydd i ti, Powel;
O fewn i'r demyl fry.
Yr Independiaid a'r Presbyteriaid.
P. Pa fodd y bu ar Gymru wedi marw y gwr rhagorol hwn?
T. Yr oedd ef wedi marw, mewn rhyw ystyr i Gymru, dros ddeng mlynedd cyn ymadael â'r byd; canys yr oedd ef yn y carchar, fel y nodwyd. Yr oedd amryw gydag ef, o Fedyddwyr ac Independiaid, wedi bod yn dra defnydd-
- ↑ Yr oedd awdwr y gân yn barnu i Mr. Powel farw yn 1671. Mae'n debyg iddo, yn rhyw fodd, gamsyniad blwyddyn yma.