Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iol i wlad eu genedigaeth, ond efe oedd yn blaenori tra cafodd ei rydd-did. Er ei fod wedi ei wneyd mor ddefnyddiol i laweroedd, eto yr oedd iddo wrthwynebwyr gelynol lawer. Wedi ei farw ef, ac i Mr. John Miles fyned i America, daeth tro yr Independiaid a'r Presbyteriaid i flaenori, er gwneyd daioni mawr i Gymru yn achos eu heneidiau anfarwol.

Y Presbyteriaid.

P. Mae'n debyg mai'r Bedyddwyr a'r Independiaid a ddechreuodd, yng Nghymru, neillduo oddiwrth Eglwys Loegr.

T. Ie, yn ddiameu, yn ol dim a ddeallais i. Ond yn raddol daeth yr Ymneillduwyr nad oedd dros fedydd y crediniol i gael eu galw yn Bresbyteriaid fwyaf oll, ac yn gyffredin; er fod rhai Independiaid yn y wlad fynychaf.

Y rhai mwyaf hynod.

P. Beth oedd enwau y rhai fu fwyaf hynod o'r gwyr da hyn yr amser hwnnw?

T. Nodwyd yn barod am Mr. Wroth a Mr. Cradock, gwyr enwog ac egniol y fuant hwy dros eu gwlad, ond mae'n debyg eu bod wedi marw cyn yr erledigaeth a ddechreuodd yn 1660. Y rhai mwyaf enwog trwy'r erledigaeth oedd Mr. S. Hughes, yr hwn a drowyd allan o eglwys Meidryn, yn sir Gaerfyrddin; Mr. Samuel Jones o Frynllywarch, yn sir Forganwg; Mr Rees Prydderch, ger llaw Llanddyfri, awdwr y llyfr a elwir "Gemau Doethineb"; a Mr. Marmaduke Matthews o Abertawe oedd wr enwog. Gwr o waedoliaeth y Cymry oedd Mr. Philip Henry. E daid, neu ei dad y cu, oedd Mr. Henry Williams