Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn byw mewn lle a elwir Briton Ferry, rhwng Abertawe a Chastellnedd, felly galwyd y mab John Henry, yn ôl arfer y Cymry. Ei fab yntef oedd Mr. Philip Henry, yr hwn a anwyd yn Llundain, ond trefnodd rhagluniaeth iddo ef fod yn y weinidogaeth mewn cwr o sir Fflint.[1] Bu ef a'i fab, Mr. Matthew Henry, yn ddefnyddiol iawn, ac yn wyr enwog yn sir y Mwythig, sir Gaerlleon, sir Fflint, sir Dinbych, &c. Ond yr wyf yn meddwl nad oedd un o'r ddau hyn yn deall Cymraeg. Mr. Hugh Owen a fu wr rhagorol yn sir Feirionydd a sir Drefaldwyn, &c. Gwr o waedoliaeth y Cymry hefyd oedd Dr. John Owen, yr hwn a fu mor rhagorol yn ei amser. Dywedir ei fod ef o deulu Llywelyn. ap Gwrgan, tywysog Morganwg. ond yng Ngwynedd yr oedd teulu'r Doctor yn byw. Ei dad, Mr. Henry Owen, ydoedd weinidog o Eglwys Loegr, ac a symudodd i fyw i sir Rhydychen.[2] Felly nid oedd Dr. Owen ddim yn deall Cymraeg, mae'n debyg. Ond y mae ysgrifeniadau neu lyfrau Dr. Owen a Mr. Matthew Henry wedi bod yn ddefnyddiol iawn trwy'r deyrnas a gwledydd ereill. Yr oedd amryw heblaw y rhai hyn o wyr duwiol yng Nghymru yn pregethu, ac yn dioddef yn yr erledigaeth, ond fy amcan i yn bennaf yw son ychydig am Mr. Stephen Hughes, yr hwn a enwyd gyntaf.

Beiblau.

P. Pa fodd yr oedd y Cymry am Feiblau yr amser blin hyn?

T. Llwm iawn oedd arnynt, fel y gwelwn yn

  1. "Mr. Phillip Henry's Life." P'. 3.
  2. "Dr. Owen's Life." printed in 1758.