Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae'r ysbryd hanesyddol yn gryf iawn ynddo. Nid yw'n fodlon i gredu dim ond ar sail awdurdod y cred ynddo. Os credodd ormod ar "Ddrych y Prif Oesoedd," chwiliodd fwy ar y gwirionedd na Ilawer o'i flaen. Yn hyn y mae'n esiampl werthfawr i rai'n byw mewn oes haws cael ysgriflyfrau a llyfrau.

Y mae ei ysbryd yn hynaws a boneddigaidd. Amcana at ddweyd y gwir mewn dull mor ddi-dramgwydd ag sydd bosibl. Ni cheisia roddi cymaint o glod i'w enwad ei hun ag a allasai wneyd. Wedi darllen ei lyfr, y mae arogl hyfryd yn aros yn y meddwl.