a gweinidogion ereill, am y cymhorth a roddasant iddo ef i argraffu y Testament Newydd y flwyddyn honno, a llyfrau Cymraeg ereill. Mae fe yno yn dangos ymhellach fod awydd yn llaweroedd o'r Cymry i brynnu Beiblau, ond nad oeddent i'w cael am arian. Mae fe'n dywedyd fod o gylch 50 o Feiblau Cymraeg yn Llundain y pryd hynny, (ac yn 1674, o gylch ugain[1] ) o herwydd paham y mae Mr. Hughes yn taer ddymuno ar y gwyr a enwyd i wneyd eu goreu i gael y Beibl wedi ei argraffu drachefn i'r Cymry. Mae fe yno yn prudd achwyn am y mawr wallau a fuasai wrth argraffu amryw lyfrau Cymraeg, o eisieu gofal a ffyddlondeb, ac heblaw hynny, beiau anafus ym Meiblau'r Llannoedd a'r Beiblau bychain, a'r Testament a argraffwyd yn 1647. Mae fe'n dangos amryw leoedd lle y gadawyd allan eiriau cyfain, ac amryw eiriau mewn rhai lleoedd. Amserwyd y llythyr hwn y 20 O Fawrth, 1671. Yn ei Ragymadrodd i'r llyfr hwnnw, mae Mr. Hughes yn nodi yr argreffid ar fyr, "Yr ymarfer o Dduwioldeb"; "Y Llwybr hyffordd i'r nefoedd"; "Agoriad byr ar weddi yr Arglwydd," &c.
Beibl 1678
P. A argraffwyd y Beibl yn ol ei ddymuniad ef?
T. Do, ac fe ddaeth allan yn 1678. Yr oedd Mr. S. Hughes yn un, os nid yn bennaf, yn gofalu am yr argraffwasg, a dywedir fod yr argraffiad hwnnw yn well nag un o'r blaen[2]