Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas Gouge.

P. Pwy oedd yn cynorthwy i ddwyn y draul y tro hyn?

T. Yr oedd gwr da yn Llundain, yr hwn y fu garedig iawn i'r Cymry yr amser hynny, sef Mr. Thomas Gouge. Byddai yn dyfod yn fynych i Gymru ei hun. Yr oedd ei haelioni yn anghyffredin; cynorthwyai'r gweinidogion dan eu herledigaethau. Dywedir iddo osod tri neu bedwar cant o ysgolion fyny yn y wlad, a gofalu ei hun am dalu am ddysg cantoedd. Fe ofalodd yn bennaf, mae'n debyg, ond trwy gymorth erail hefyd, i ddwyn traul argraffiad y Beibl y tro hwnnw. Argraffwyd wyth mil o Feiblau, a rhoddwyd mil o hynny yn rhad i'r tlodion, a threfnwyd i'r lleill gael eu gwerthu am 4s. y llyfr. Mae hanes wedi ei gadw gan Dr. Calamy, o gyfrif haelioni Mr. Gouge i'r Cymry mewn un flwyddyn, neu yn hytrach naw mis, sef o 24 o Fehefin, 1674, i'r 25 o Fawrth, 1675, fel y canlyn:

1. Gosodwyd 812 o blant tlodion yn yr ysgol i ddysgu darllen Saesneg, mewn un ar ddeg a deugain o drefi pennaf Cymru, heb law ychwaneg na 500 a osodwyd mewn ysgol y flwyddyn ddiweddaf, trwy haelioni eraill.

2. Prynnwyd a chyfrannwyd 32 o Feiblau Cymraeg, yr hyn oedd y cwbl ag ellid gael yng Nghymru ac yn Llundain.

3. Rhoddwyd 240 o Destamentau Cymraeg i'r tlodion ag allent eu darllen.

4. Rhoddwyd 500 yn yr un modd o'r llyfr a elwir, "Holl Ddyledswydd Dyn."

Nodir yno i'r pethau hyn gynhyrfu eraill o'r Cymry, i osod y tlodion yn yr ysgol. Heblaw ei haelioni ei hun, yr oedd Mr. Gouge yn cymell llawer eraill i gynorthwyo'r Cymry.

P. Gwr rhagorol iawn oedd hwn i'r Cymry.