VIII. CYFNOD GODDEFIAD.
1688-1730.
David Jones, Llandysilio.
P. Beth a ddaeth o'r Beibl wedi marw Mr. Hughes?
T. Dywedir i Mr. David Jones, yr hwn a fwriasid allan o eglwys Llandyssilio yn nechreu'r erledigaeth, gymeryd gofal mawr a llafur i argraffu'r Beibl, ac iddo danu deng mil o honynt ar hyd y wlad. Argraffodd ef amryw ereill o lyfrau Cymraeg, a gwnaeth lawer o ddaioni, a chafodd gynorthwy i ddwyn y draul gan lawer o weinidogion ac ereill o Loegr, gan mwyaf o Lundain."[1]
Argraffiadau'r Beibl.
P. Pa flwyddyn y daeth yr argraffiad hwn allan?
T. Yn 1690.[2] Cyn hyn, ddwy neu dair blynedd, yr oedd rhydd-did wedi dyfod oddiwrth. yr erledigaeth, trwy ddyfodiad y brenin William fel y nodwyd. Felly mewn 60 mlynedd bu pedwar argraffiad o'r Beibl Cymraeg cyffredin i'r bobl, heblaw Beiblau mawrion yr eglwysi. Y cyntaf yn 1630; yr ail yn 1654; y trydydd yn 1678; a'r olaf yn 1690; heblaw'r Testament Newydd, yr hwn a argraffwyd amryw weithiau. Yn awr, hawdd yw gweled fod gweinidogion ac eraill o Eglwys Loegr wedi bod yn egniol iawn i ddwyn Gair Duw i'r Cymry, yn eu hiaith eu