Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PRYDNAWN BYWYD MEWN GWLAD ESTRONOL

TÔN,—"The last rose of Summer."

O NA bawn i gartref ar aelwyd fy nhad,
Yn lle bod fel alltud yn mhell o fy ngwlad;
Lle treuliwn foreuddydd fy einioes yn llon,
Heb ofid na hiraeth, yn ysgafn fy mron.

'Nol chwareu boreuddydd fy einioes i gyd,
Newidiodd y chwareu am ofal y byd;
Ymguddiodd haul disglair boreuddydd fy oes
Tu ol i gymylau o chwerwder a loes.

'Roedd awyr boreuddydd fy einioes yn glir,
Ond Ow! ni pharhaodd fy heulwen yn hir;
Daeth stormydd o ofid i hulio fy nen,
Mae rhei'ny'n ymarllwys o hyd am fy mhen.

Pan fyddwyf yn cefnu ar ofid a loes
Boed f'awyr yn ddisglair fel bore fy oes;
Terfyngylch fy hwyrddydd fo'n oleu pryd hyn,
A'i belydr yn cyrraedd gwaelodion y glyn.