Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NI WN I DDIM YN WIR.

(Efelychiad).

OEDD Gweno Jones yn eneth dlôs,
A geneth gall dros ben,
A bachgen hardd oedd Huw o'r Rhos,
Ond ddim mor gwic a Gwen;
"Pa sut mae'r galon, Huw, yn awr,
Gofynnai Gweno'n glir,
Ond dwedai Huw a'i ben i lawr,—
"Ni wn i ddim yn wir."

"Mae gennych gariad," meddai hi,
"Ond pwy yw honno, Huw?
Cael cwmni llanc mor bert a chwi,
Rhyw fraint ryfeddol yw;
Chwi ellwch gael, 'rwy'n siwr, yn awr
Eich dewis trwy y sir,
A chwithau'n fab i ŵr mor fawr,"—
"Ni wn i ddim yn wir."

"Mi ddwedsoch wrthyf fi ryw dro
Mai fi a fyddai'r un,
Ond 'rych chwi'n awr yn swil o'ch co'
Wrth siarad hefo mûn;
Dowch, Huw, a pheidiwch plygu'ch pen,
A thynnu gwyneb hir,
Gwnewch lygad siriol ar eich Gwen,"—
"Ni wn i ddim yn wir."