Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wel, garw o beth yw gŵr gweddw
Am ddenu menywaid, yntê?
Wrth glywed fe ddwedai'r hen Gymro yn glir,
Dan wincio, a hwbian,— "Ho-ho, felly'n wir."

A glywsoch chwi, f'ewyrth, y stori
A daenir heb gelwydd na sên?
Mae'n ddigon i waed dyn i rewi,
A gwallt dyn i sythu ar ei ben,
Cadd teulu'n ddiweddar ei witsio,
Mae'r gŵr wedi drysu o'i go,
A'r fuwch wedi bwyta'r maen llifo,
A'r gath wedi llyncu y llo;
Ond dwedai'r hen Gymro gan wneud gwyneb hir,
A wincio, a hwbian,—"Ho-ho, felly'n wir."

Fe glywir rhyw fath o hanesion
Wrth fyned a dyfod bob tu,
Mae rhai yn gelwyddau go wynion,
A'r lleill yn gelwyddau go ddu;
Ond celwydd yw celwydd trwy'r cyfan,
A gwell peidio'i ddweyd, onid yw?
Mae celwydd bob amser yn aflan,
Beth bynnag a fyddo ei liw;
Dywedwn 'run fath a'r hen Gymro yn glir,
Pan glywn ryw stori,—"Ho-ho, felly'n wir.".
 Mawrth 19, 1872.