Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ARHOSWCH DIPYN BACH.

OS oes rhyw rai yn ameu
Ymysg y dyrfa lân,
Fod diffyg mewn testynau
I wneuthur pwt o gân;
Os credir gan rywun yn awr
Mai marw'r awen iach,
Gwrandewch i gyd a 'steddwch lawr,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.

Pan fyddo eisieu pwyllo,
Yn araf pia hi,
Cadd llawer un ei dwyllo
Wrth ruthro, ffwrdd a hi;
Os nad yw'r ffordd yn eithaf clir,
A chwithau'n eithaf iach,
Fe wella pethau cyn bo hir,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.

Pan ddelo rhyw chwedleuon
I ddisgyn ar eich clyw,
'Dyw coelio rheiny'n union
Ddim lles i undyn byw;
Anwiredd sydd yn tyfu'n hir,
Ar dafod llawer gwrach,
Cyn coelio'r un o'r rheiny'n glir,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.