I MARY.
ROEDD rhosyn hardd a lili wen
Yn tyfu'n agos at eu gilydd,
A'r lili roddai bwys ei phen
Ar fron y rhosyn coch, ysblenydd;
O Mary ! chwi yw'r lili wen,
Gaf finnau fod yn rhosyn, Mari?
I chwi gael rhoddi pwys eich pen
Ar fynwes sydd yn gariad trwyddi.
'Roedd cwmwl mawr a chwmwl bach
Un tro yn nofio trwy'r wybrennydd,
Ond pan y chwythodd awel iach,
Ymdoddai'r ddau i gôl eu gilydd;
Gawn ninnau fod, O Mari dlos,
'Run fath a'r cymyl hynny, dwedwch?
Ag awel cariad ddydd a nos
I'n chwythu'n un i fro dedwyddwch?
Mae calon lawn o dan fy mron,
Yn ocheneidio am eich cwmni,
Pob curiad rydd y galon hon
Sydd fel yn dwedyd,—"Mari, Mari; "
O coeliwch fi mai nid rhyw rith
Yw cariad pur y galon dyner,
Os curo'n ofer gaiff hi byth,
Mae'n siwr o dorri draws ei hanner.