Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MORFUDD PUW

WAETH tewi na siarad,
Mae rhywbeth mewn cariad,
Onid oes, fechgyn?
Er cymaint o guro
A ddichon fod arno,
Mae cariad yn ennyn.

Waeth tewi na siarad,
Mae rhywbeth mewn cariad,
Onid oes, ferched?
Er ceisio ei lethu,
Mae cariad yn tyfu
Llawn mor gyflymed.

Er i ti lwyr gladdu
Dy hanes yn caru,
O dan wraidd dy fynwes,
Os sonnir wrth siarad
Am wrthrych dy gariad,
Daw gwrid mewn amrantiad
I ddweyd dy hanes.

Peth arall yn wastad
Sy'n rhyfedd mewn cariad,
Gall fyw'n eithaf tawel
Mewn bwthyn iselwedd,
Yn gystal a'r annedd,
Lle mae rhwysg a mawredd
Bonedd ffroen uchel.