Tudalen:Gwaith S.R.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag y gallaf, ond gwyddoch ei bod yn llawer haws i'r tenantiaid fyned nag ydyw i mi fyned. Nid oes ganddynt hwy ddim gofalon i'w rhwystro, ac y maent yn ddigon cryfion i ddal pob tywydd; ac y maent yn medru myned i'w cyrddau eu hunain pan y mynnant."

"Dywedasoch chwi gynnau nad oedd tadau y Careful ddim yn gapelwyr mor dynion ag ydynt hwy."

"Do, my lord, mi ddywedais hynny, ac yr wyf fi yn credu hynny; ac y mae eich lady chwi a gwraig y person hefyd yn dweyd ac yn meddwl yr un peth, ac y maent am i mi arfer awdurdod fy sefyllfa i'w plygu i fyned i'r Eglwys: ac yn wir, yr wyf fi yn credu, my lord, y dylid eu plygu —eu bod hwy yn llawer mwy cyndyn nag oedd eu tadau."

"Nid doeth fyddai i ni fyned i ddadl ar beth fel hyn; ond yr wyf fi yn credu eich bod chwi yn cam—gredu. Yr wyf fi yn credu fod y tadau yn llawn mor dynned anghydffurfwyr a neb sydd i'w cael yn awr. Y mae yn ffaith, yn ffaith ag sydd ar gof a chadw hyd heddyw, i geidwad parc fy hen—hen—dad cu gyduno â bwtler Judge Jeffry i gasglu mob o hogiau, hogiau mawrion; ac yr oedd rhai o honynt yn hogiau penlas, clun—gloff, a gwargam, i luchio hen—hen—dad cu y Carefuls ag wyau gorllyd, pan oedd yr hen ŵr yn myned i'w gapel bychan wrth Droed y Foel un bore Sabbath; ac yr ydys yn gwybod hefyd i geidwad y parc a'r bwtler gael eu cymhell a'u cynhyrfu i fynnu y sport hynny gan rywbeth a ddywedwyd ar frecwast yn nhŷ y Judge y bore hwnnw; a gallaf ddywedyd i chwi yn mhellach fod capelydd y Judge, a rector y plwyf, a'u gwragedd, yn