Tudalen:Gwaith S.R.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brecwesla gyda'r Judge y bore hwnnw: ac yr oedd y tair lady yn llawn bywyd, ac wrth eu bodd yn cynorthwyo i dynnu cynllun sport yr wyau gorllyd; ac yr oeddynt oll ar y pryd yn disgwyl y cerbyd i'w cario at gymun sanctaidd corff a gwaed y Ceidwad wrth fwrdd allor yr Eglwys: ond aeth yr hen ŵr i'r capel drwy y mob, a'r poeredd, a'r llaid, a'r wyau, a heibio i gerbyd y Judge, a bu fyw a marw yn denant Cilhaul, ac yn gapelwr hefyd. Yr wyf fi yn credu fod oes yr wyau gorllyd yn un llai creulawn tuag at anghydffurwyr nag ydyw yr oes wengar foneddigaidd athrodaidd hon, pan y mae dynion da, gonest, diwyd, dirodres, yn cael eu cyfrwyswthio o'u ffermydd o herwydd eu syniadau crefyddol. Yr oedd y ceinioca gynt i brynnu wyau gorllyd yn beth llawn mor deg ag ydyw defnyddio arian treth i rannu torthau gwynion; ac yr wyf fi yn sicr ei fod yn dro llai bawaidd o'r hanner i luchio yr hen—hen—dad cu ag wyau nag ydyw yn awr i wthio ymaith ei orwyr o'r ffarm. Yr wyf yn deisyf arnoch ddyfod i ryw gytundeb â'r Carefuls. Y mae eu tadau wedi bod yn ffyddlon i ni, ac yn ymdrechgar ar yr estate am lawer oes. Ni fynnwn er dim golli y fath hen deulu. Er mwyn pob peth peidiwch a gadael iddynt fyned i America."

Y newydd nesaf a glywodd teulu y Carefuls oedd fod y ffarm wedi ei gosod i Mr. Jacob Highmind; ac felly darfu iddynt barotoi yn ddiwyd, ond yn ddistaw, tuag at eu mordaith; a darfu i dros bymtheg ar hugain o grefftwyr a llafurwyr goreu y gymydogaeth ymfudo ymaith gyda hwy.

Ychydig ddyddiau cyn eu hymadawiad, galwodd Mr. Careful yn swyddfa y steward ar y