Tudalen:Gwaith S.R.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y steward a'i wraig yn y passage yn clywed yr ymddiddan yma; a chydag i'r hen ffarmwr droi ei gefn o'r swyddfa, daeth y steward i mewn, a dywedodd gyda swn gofid ei bod yn ddrwg iawn ganddo na buasai yn gofyn i'r hen ddyn ddyfod i mewn i'r tŷ i gael gwydriad ffarwel. "Oblegid," meddai'r steward, "y mae John Careful mewn gwirionedd yn ffarmwr da, ac y mae ei blant yn rhai pur weithgar, a'r unig beth oedd yn eu gwneyd mor atgas yn ein tŷ ni, gyda Mrs. Steward, a'r plant yn enwedig, oedd eu bod mor ystyfnig, a braidd yn dafodog, os tybient eu bod yn cael eu gwasgu."

Gydag i'r Carefuls gymeryd llong a hwylio ymaith, gwahoddodd Mrs. Steward y tenant newydd a'i wraig i ddyfod i'r Green i dê. Yr amcan o hynny, mewn enw, oedd i'r steward a'i deulu gael cyfle i roddi cyfarwyddiadau i Mr. a Mrs. Highmind gyda golwg ar driniad dyfodol Cilhaul Uchaf; ond yr amcan mewn gwirionedd oedd i deulu y steward gael gwybod teimladau a syniadau a dywediadau y cymydogion gyda golwg ar wthiad ymaith y Carefuls o'u ffarm. Adroddodd Mr. a Mrs. Highmind wrthynt bob peth oeddynt wedi glywed gan bawb; a threuliwyd dwy awr a hanner felly yn bur ddifyr i redeg dros holl helynt yr holl gymydogion. Gwyddai Jacob Highmind yn bur dda am ragfarn teulu y steward yn erbyn rhyw bump neu chwech o'r cymydogion, a gwyddent hefyd yn eithaf da pa fodd i borthi y rhagfarn hwnnw; a buont yn bur llwyddianus i goginio i'r stewart a'i deulu wledd o athrod o'r fath a garent; a phan oeddynt ar gychwyn adref o'r Green, crybwyllodd y steward yn bur siriol wrthynt ei fod ef am ailwneyd aelwyd