Tudalen:Gwaith S.R.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y parlwr a phapuro y muriau, a'i fod am seilio y lofft wely oreu, a helaethu ei ffenestr; a'i fod am wneuthur back-kitchen newydd iddynt, a symud y grisiau o ochr y kitchen i dalcen uchaf y back-kitchen; a'i fod am wneyd ffwrn a chodi boiler yn nhalcen isaf y back-kitchen; ac y mynnai fflagio y seler; ac y caent dŷ bach mawr y tuhwnt i'r twyn ffebrins pellaf yn yr ardd; ac y mynnai droi y pistyll o'r tu wyneb i'r tu cefn i'r tŷ, heibio i ddrws y back—kitchen; a'i fod heblaw hynny yn cynllunio amryw gyfleusderau eraill iddynt; ac ychwanegodd gyda wyneb pur siriol ei fod yn disgwyl y gwnaent yn dda yn Nghilhaul Uchaf. "Oblegid," meddai ef, "y mae yn ffarm bur helaeth; ac, a dweyd y gwir i chwi yn ddistaw, y mae y Carefuls wedi ei gadael yn y drefn oreu, ac yn y galon oreu. Mewn un gair, yr oedd yn amhosibl iddynt ei gadael mewn cyflwr gwell."

Ymadawodd Mr. a Mrs. Highmind o'r Green mewn ysbrydoedd pur uchel, a chydymroisant yn egnïol i ddechreu ffarmio; ond buont dipyn yn anlwcus yn newisiad eu gwasanaeth-ddynion. Nid oedd y bugail ddim yn un rhy graff, na rhy gyflym, na rhy ofalus; ac nid rhyw law wastad iawn oedd gan yr aradrwr—byddai ei gwlltwr yn bur fynych ar wyneb y tir, wedi cael ei wthio allan gan garreg—neu ynte byddai yn glynu ac yn plygu ar y graig ddu ag oedd yn waelod i dros hanner tyddyn Cilhaul; ac yr oedd yn hoff iawn hefyd o wê hir y pum ceffyl, ac o'r hwshings, a'r martingals, a'r mwng ribanawg, a'r cynffonau plethedig. Ac yr oedd y cow-man a'r laeth-forwyn yn bur hoff o fod gyda'u gilydd yn mhob man y gallent; a deallwyd bob yn dipyn ei bod hi yn