Tudalen:Gwaith S.R.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag yr oedd eu mawr eisiau tuag at wasanaeth y ffarm. Dywedodd ei hen ewythr wrtho y gallai roddi benthyg pum punt ar hugain iddo am bum mis, ond nad allai roddi dim ychwaneg iddo; ei fod ef yn fynych mewn prinder ei hun; ei fod yn gorfod rhoddi llog hynny o arian oedd ganddo wrth gefn i wneyd i fyny y rhent; a bod yn rhaid iddo gael y pum punt ar hugain yn ol cyn Gwyl Fair. Yr oedd Mr. Highmind yn ddiolchgar iawn i'w hen ewythr am ei gymwynas, a sicrhaodd wrtho y gofalai am dalu yn ol mewn amser prydlawn. Trwy gael benthyg fel hyn gan ei ewythr, casglodd ddigon rywfodd i dalu ei rent Gwyl Fihangel. A thoc, toc, toc, bion fel breuddwyd, dyma ddydd rhent Gwyl Fair yn dyfod ar ei warthaf, ac yr oedd Mr. Jacob Highmind druan yn gwbl amharod i dalu yn ol i'w ewythr, nac i dalu i'w arglwydd tir nac i'r gweision. Yr oedd wedi talu ei dreth tlodion, a'r degwm, a'r dreth Eglwys, a threth y gig a'r cwn, a dyna y cyfan; ac felly aeth eilwaith at ei hen ewythr, ac eglurodd ei amgylchiad iddo, ac erfyniodd arno fyned gydag ef i'r banc i fod yn feichiau yno drosto am bedwar ugain punt. Yr oedd yn bur anhawdd gan yr hen ewythr fyned gydag ef i'r banc, ond aeth o'i led anfodd; oblegid yr oedd yn gweled mai dyna oedd yr unig ffordd iddo gael ei bum punt ar hugain yn ol y pryd hynny. Pan oeddynt ill dau yn y banc, rhoddodd Highmind rywfodd na'i gilydd awgrym distaw i'r bancer i dynnu y draft am gant a deg, yn lle am bedwar ugain; a chyn pen yr hanner blwyddyn, yr oedd tymhor rhediad y drafft hwnnw ar ben, a'r trydydd dydd rhent wrth y drws; a gorfu Highmind druan werthu y pigion o'i stoc er ad—dalu y drafft hwnnw a'i