cofio hynny yn awr, ac y mae hynny erbyn heddyw yn gryn lwc i ni; ac eto mi welaf fod y balance yma yn ein herbyn."
"Ydyw, syr, y mae."
"Beth, oes genyt ti ddim arian mewn llaw tuagat rent y flwyddyn?"
"Nac oes yn wir, syr, ac y mae y dreth dlodion, a rhai gofynion eraill, heb eu talu."
"Dam it—rhaid fod rhyw dalion uchel cywilyddus yn dy gyfrif di."
"Nac oes yn wir, syr: cefais wneuthur pob peth i chwi am y prisiau isaf; ond darfu i ni golli cryn dipyn o arian ar rai o'r ychen mwyaf, a rhai o'r defaid mawrion mwyaf: nid oeddynt ddim yn gweddu yma, ac y mae wedi bod yn dymor anfanteisiol o ran y tywydd a'r prisiau."
"Wel, cawr gwyllt a'n cato ni, oes gennyt ti ddim tuag at y rhent?"
"Nac oes yn wir, syr."
"Wel, yn enw pob rheswm, pa fodd y mae yn bod felly?"
Wel, syr, y mae'r ffarmwyr yn methu talu cyflogau, ac y mae llaweroedd o lafurwyr tlodion o ganlyniad allan o waith; ac y mae y trethoedd o herwydd hynny yn myned yn bur uchel, a'r tir ar yr un pryd yn gwaelu. Ac yn wìr, y mae degwm Cilhaul yn bur uchel—yn ymyl pymtheg punt."
"Beth! ydyw degwm Cilhaul yn bymtheg punt?"
"Ydyw, syr, o fewn ychydig sylltau."
"O dangio y personiaid a'u Heglwys; y maent hwy yn gallu dyfeisio i ennill ac i elwa drwy bob prisiad, a than bob trefn."
"Atolwg, syr, peidiwch a dangio y personiaid