Tudalen:Gwaith S.R.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel yna, er eich mwyn eich hun, ac er mwyn eich ceraint sy' mewn urddau eglwysig hefyd. Ydych chwi yn cofio fel y darfu i chwi fwgwth troi Jonathan Noncony druan o'i ffarm am iddo ddigwydd dweyd dan ryw hanner cellwair yr hyn a ddywedasoch chwi yn awr—nad oedd y person byth yn colli dim drwy unrhyw gyfnewidiad."

"Ydwyf, baili, yr wyf yn cofio fel y darfu i mi drin Jonathan, ac fel y darfu i mi yrru Jonathan a'r warden benben, fel y cawn i achlysur oddiwrth hynny i achwyn ar Jonathan wrth ei feistr tir:—ond dangio Jonathan a'r warden a'r person; ni wiw i ni syrthio allan a myned i gynhennu. Ein pwnc ni yn awr yw, beth gawn i wneyd o Gilhaul? Oes dim modd i ni gael neb i'w chymeryd oddiar ein llaw?"

"Nac oes yn wir, syr, am y rhent ac yn ol y prisiau presennol; o leiaf, yr wyf yn ofni hynny. Y mae yn Hafod Hwntw, mhell bell tudraw i fynyddoedd Plumlimon, deulu mawr pur ddigrif. Y mae ganddynt lawer iawn iawn o ddefaid, ac o ddyniewyd ac o geffylau bach y mynydd; ac y mae rhyw air fod eu deadelloedd yn lluosogi weithiau mewn modd braidd dirgelaidd a gwyrthiol. Y mae yno ryw ddwsin o blant tewion, geirwon, pengrychion, llygadfawr; ac nid ydynt hwy na'r hen bobl byth yn myned i na llan na chapel; ond y maent yn rhyw ffordd, trwy eu bugeiliaeth rhyfeddol, wedi sparin llawer iawn o arian. A dywedir fod rhai o'r merched am ddyfod i fyw dipyn yn îs i lawr er mwyn cael gweled tipyn mwy o'r byd; a'u bod ar brydiau yn bur daer am i'w tad chwilio am ffarm yn rhywle yn îs i lawr."

"Ond, wyt yn sicr, baili, fod yno arian? Dylai