Tudalen:Gwaith S.R.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod sicrwydd am hynny, oblegid dyna ein pwnc ni."

"O oes, syr, y mae yno ddigon o arian. Ni raid dim ofni am hyny. Y mae ganddynt, heblaw y stoc fawr drom sydd yno, ddwy fil a hanner yn mortgage ar dyddyn Gwaun y Bwlch; a dywedir fod ganddynt fil a haner o hen guineas mewn darn o hen bridden yn y ddaear dan y fflagsen wrth draed gwely yr hen bobl yn y siamber bellaf."

"Djail innau i, yr hen bridden honno fyddai y peth i ni yn awr, baili. Pe medrem ni unwaith gael teulu Hafod Hwntw i Gilhaul Uchaf, ni byddem ni ddim yn hir cyn cael adgyfodiad disglaer i'r hen guineas o'u bedd tywyll. Mynnem ni rai ohonynt yn bur doc i gael fresh air yngoleu'r dydd, yn lle bod yn llwydo ac yn magu y gout yn yr hen bridden."

"Ond, syr, pe baent hwy yn dyfod i fyw yn agos yma, byddai plant y pentref yn sicr o redeg ar ol yr hen ddyn ar ddiwrnod rhent, ac ar bob diwrnod arall, i lygadu arno, ac i estyn bysedd ar ei ol. Y mae ganddo wasgod gron gwta gwta o wlan du y ddafad, a honno yn glytiau o bob lliw a llun; ac y mae dwy led llaw rhwng gwaelod honno a thop ei glos lledr, oblegid nid oes ganddo byth ddim straps i ddal ei glos i fyny. Wrth ei weled unwaith yn didol y defaid wrth y gorlan, yr oeddwn yn disgwyl bob munud gweled ei hen glos yn llithro i lawr dros ei grwper. Y mae ganddo fyclau pres mawrion wrth ben ei luniau, ac ar gefnau ei esgidiau. Nid oes ganddo ddim byd am ei wddf. Un od iawn ydyw o, ac y mae ei wraig yn odiach nag yntau; ac yn wir, y mae bechgyn