Tudalen:Gwaith S.R.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gefnogi ei araeth, llwyddodd y baili i gael gan yr hen ŵr ddyfod gydag ef heibio i Gilhaul wrth ddychwelyd adref o'r ffair. Ond erbyn eu dyfod at y Cross Keys nid oedd ar yr hen ŵr eisiau na bwyd na diod. Nid oedd ond newydd orffen bwyta y bara a'r cig oedd ganddo yn ei boced, ac yr oedd newydd drachtio yn o ddwfn o ffynnon y Graigwen wrth ddyfod heibio. Rhoddodd gwart o flawd ceirch a dwfr i'w ferlyn, a gyrrodd i fynu ar unwaith tua Chilhaul; a thaflodd ei olwg o'i amgylch ryw ddwywaith wrth yrru i fynu tua'r tŷ, ac aeth yn bur syth drwy y buarth, ac i fyny tua'r ffriddoedd, a gofynnodd ryw ddau neu dri o gwestiynau i'r baili yn nghylch y rhent a'r trethoedd, a'r tenant diweddaf a'r un a fuasai yno o'i flaen. Dywedodd y baili y cai yr holl hanes i gyd gan deulu y steward, ac erfyniodd yn daer iawn arno alw yn y Green.

"Na," meddai'r hen ddyn, "byddai yn beth hollol ddiles i mi fyned cyn belled a'r Green. Yr wyf yn gwybod yn barod gymaint ag sydd arnaf eisieu wybod am hanes ac am ragorion Cilhaul. Y mae yn ddrwg genyf i mi deithio cyn belled o'm ffordd wrth ddyfod adref o'r ffair. Yr wyf am frysio yn awr heb golli dim amser pellach i mi gael cyrraedd adref cyn nos."

Dywedodd y baili wrtho y byddai yn hollol anmhosibl iddo gyrraedd adref erbyn nos; a thaer erfyniodd arno drachefn a thrachefn i alw yn y Green i gael ychydig luniaeth a feed i'w ferlyn; a lletya y noson honno yn y Green neu yn Nhgilhaul; ac y cai gychwyn adref gyda'r wawr bore drannoeth.

"Na thanci," meddai'r hen ŵr, "mi âf fi adref yn burion heno. Gallaf gyrraedd adref