Tudalen:Gwaith S.R.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr wyf yn ofni felly nad oes dim gobaith i ni eu cael hwy byth yn ol, ac y bydd Cilhaul ar ein llaw am flwyddyn eto."

"Bydd, syr, bydd Cilhaul ar eich llaw hyd ddydd brawd, os na wnewch chwi gynnyg rhyw gyfnewidiad."

"Pa fodd y gallaf fi gynnyg unrhyw gyfnewidiad yn awr ar ol i ni ymddwyn fel y gwnaethom tuag at y Carefuls? Pa fodd byth y wynebaf yr Audit nesaf? Pa fodd y meiddiaf ddangos fy wyneb i'm lord? Pa beth a wnaf, neu a ddywedaf, nis gwn yn y byd. Yn boeth ulw y bo yr hen Gilhaul yna. Pe medrid ei gwthio i rywle o'r golwg, byddai yn drugaredd i mi. Gwynfyd pe ceid rhyw wrach i'w rheibio."

"Yr ydych chwi wedi gwneyd hynny yn barod," ebe y baili. "Byddai yn eithaf peth i chwi gyflogi llong fawr fawr i'w chludo draw ymhell i'r gorllewin dros y tonnau ar ol y Carefuls. Dichon y gwnaent hwy rywbeth o honi. Neu pe digwyddai i'r llong a hithau suddo ar fanciau tywod Newfoundland, byddai hynny yn well fyth. Yr wyf yn gwybod y byddai yn llawer gwell i chwi ac i'r meistr tir ei hanfon felly dros y môr nag i chwi ei chadw ymlaen ar eich llaw i'w thrin. Costiai ei phacio i fyny dipyn o drafferth i chwi, a byddai ei mudiad ymaith yn dipyn bach o golled i'r Frenhines ac i'r Eglwys, i'r person ac i'r cardotyn; ond byddai yn fendith fawr i chwi, os nad ellwch ei gosod."

"O dangio di, baili, y rascal dwbl pan; paid di a cracio dy jokes creulawn fel yna i'm diraddio i."

"Wel, syr, mi beidiaf fi yn rhwydd iawn; ond yr ydych chwi a'ch teulu yn ddiweddar wedi cracio pethau bryntach na jokes yn fy erbyn i,