Tudalen:Gwaith S.R.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tra bydd byw, a glŷn wrth ei goffadwriaeth am oesoedd ar ol iddo farw. Byddai darlunio y cynhennau fu yn ei deulu, a danodion ei gydoruchwylwyr, a'r modd y bu rhyngddo â'i arglwydd, a'r sport fyddai rhai o'i hen gyfeillion yn wneyd o hono o gylch bar y Cross Keys, yn bethau rhy anhawdd i mi eu llawn ddarlunio. Y mae y rhan fwyaf o'r pethau hynny wedi cael eu cadw yn secrets. Gellir dychmygu, a dychmygu yn bur gywir, ond nid doeth adrodd dim heb fod sail eglur a diamheuol iddo.

Yr wyf yn clywed fod fy nghefnder awenyddol Twm Edward o'r Nant wedi rhoddi ei ffarm i fyny, a'i fod a'i fryd ar ymfudo i ryw Canterbury Settlement yn ynysoedd y de; a'i fod wedi parotoi hanesion manylaidd am stewardiaeth y Green, a thenantiaeth y cwr uchaf o estate Lord Protection, i'w cyhoeddi yn llyfr go fawr cyn iddo ymadael o'r wlad. Y mae Twm wedi cael y cyfleusderau mwyaf manteisiol i sylwi a deall fel y mae pethau wedi myned yn mlaen er's llawer blwyddyn yn y Green, ac yn yr Hall, ac ar hyd yr holl estate; ac yr wyf yn sicr y bydd hanesion ac adroddiadau Twm yn rhai cryfion ac addysgiadol, yn enwedig ei adroddiadau o gyfrwys ddichellion y steward a'i deulu i lunio a derbyn a thraethu clep ac athrod, ac i chwythu cynnen rhwng cymydogion, er mwyn i'r steward drwy hynny gael achlysur i feirniadu yn yr Hall, yn nghlyw y lord a'i gymdeithion, ar dymherau y tenantiaid, a chael achlysur hefyd i ddifrïo a gwthio ymaith y tenant ymdrechgar fydd yn rhy onest i werthu ei gydwybod am bris dirmygol tylwyth y steward. Bydd llyfr Twm o hanes teulu y steward yn werth ei gael, a gwnaiff les.