Yr wyf finnau yn bwriadu, pan gaf hamdden i grynhoi at eu gilydd, gyda thipyn o ofal a manylder, fy adgofion o hanes Nant y Dderwen, a'r Clawdd Melyn, a'r Caeau Llwydion, a'r Ffos Fach, a'r Bryn Tew, a Than yr Wtra, a'r Berth Lwyd, a'r Gro Arw, a Glyn Carfan, a'r Coed Crin, a Llwyn y Pryfaid, a Maes y Brwyn, a'r Gelli Lwyd, a Bryndu, a'r Bryniau Mawr, a Thal y Bont, a'r Tŷ Uchel, a Garth y Drain, a Math y Dafarn; ac amryw o ffermydd eraill oddeutu y gymydogaeth. Yn y rhan fwyaf o'r mannau a nodwyd, cyflawnwyd anghyfiawnderau o'r fath greulonaf tuag at hen denantiaid o'r cymeriad mwyaf ymdrechgar a ffyddlon; a dangoswyd at rai o honynt, yn enwedig tuag at weddwon a phlant amddifaid, fath o flagardiaeth ag y buasai yn gywilydd gan grach—stewardiaid Novogorod feddwl am ei gyflawni.
Yr wyf fi yn gwresog garu hen wlad fy ngenedigaeth, a gwn fod y rhan fwyaf o'm cymydogion yn hoff iawn fel finnau o'u gwlad, er tloted ydyw, a'u bod wedi gwneuthur ymdrechion anghredadwy i geisio byw ynddi: ond pan feddyliwyf am yr addewidion anogaethol o dâl sicr am eu llafur i amaethwyr a llafurwyr diwyd a gofalus sy'n cael eu dal allan iddynt gan ddyffrynoedd llydain breision cyfoethog taleithiau gorllewin America, a holl wastadedd y ddwy Canada, a phorfeydd gwelltog anherfynol Australasia, a gwastad—diroedd iachus rhai o wledydd hyfryd Asia Leiaf a gororau Affrica, a deniadau y Canterbury Settlements, a'r Sydney Herbert Settlements, a hyd yn nod rai o dywysogaethau yr Ynys Werdd yn ein hymyl;—pan feddyliwyf, meddaf, am y deniadau a'r gwahoddiadau taerion