Tudalen:Gwaith S.R.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cryfion ac anogaethol sy'n cyrraedd y ffarmwyr a'r gweithwyr o'r holl fannau hyn; a phan gofiwyf am luosogiad cyflym y cyfleusderau i deithio ar bob llaw, ac am y niferoedd sydd wedi ymfudo yn barod o'n gwlad fach dlawd lethedig; a phan feddyliwyf am y dull barbaraidd yr ydys yn baeddu, ac yn beichio, ac yn athrodi, ac yn hustyngio, ac yn diraddio, ac yn mathru dan draed y ffarmwyr mwyaf diwyd ac ymdrechgar a welodd ein hen gymoedd erioed,—yr wyf yn ofni yn wir yr ymfuda pob rhinwedd a diwydrwydd ymaith ym mhell oddiyma, a hynny yn bur fuan, os na bydd i arglwyddi tiroedd a'u crach—stewardiaid, ynghyda'u ceraint eglwysig, ymddwyn yn decach ac yn foneddigeiddiach tuag at denantiaid cydwybodol a llafurus.