Tudalen:Gwaith S.R.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARWOLAETH Y CRISTION

Gristion hawddgar! Daeth yr adeg
It' ehedeg at dy Dad;
Gad dy lesgedd, hwylia'th edyn,
Cyfod, cychwyn tua'th wlad;
Sych dy ddagrau, dechreu ganu,
Darfu'th bechu, darfu'th boen;
Ti gei bellach dawel orffwys
Ym mharadwys gyda'r Oen.

Er fod afon angau'n donnog,
A llen niwlog dros y glyn,
Gwel dy Briod cu yn dyfod
I'th gyfarfod y pryd hyn;
Dacw'r gelyn wrth ei gadwyn,
Heb ei golyn, dan ei glwy';
Dacw uffern wedi'i maeddu:-
Gristion! pam yr ofni mwy?

Yn y dyffryn, er mor dywyll,
Gwelaf gannwyll ddisglaer draw,
Wedi'i chynneu i'th oleuo,
Rhag it' lithro ar un law;
Mae dy Iesu wedi blaenu,
Wedi torri grym y don;
Pam yr ofni groesi'r dyffryn?
Pam mae dychryn dan dy fron?

Eilia'th gân, mae'r nos yn cilio,
Gwel, mae gwawl yn hulio'r glyn:
Edrych trwy y niwlen deneu,
Gwel drigfannau Seion fryn:
Gwel, mae hyfryd wên dragwyddol,
Heulwen nefol ar y wlad;
Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol
Yw brenhinol lys dy Dad.