Tudalen:Gwaith S.R.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwel y di-rif seirian berlau
Wisgant furiau'r nefol gaer;
Gwel ei huchel byrth disgleirdeg,
A'i llydain deg heolydd aur;
Gwel yr afon bur redegog,
Gwel y deiliog ffrwythlawn bren;
Gwel y llwybrau a'r trigfannau
Sydd i'r seintiau uwch y nen.

Gwel y dedwydd brynedigion
Yn eu gynau gwynion draw,
Wedi gwisgo eu coronau,
A'u telynau yn eu llaw;
Yno'n gorffwys, gyda'u gilydd,
Mewn llawenydd pur di-lyth,
Heb na loes, na chroes, na phechod,
Mwyach i'w cyfarfod byth.

Gwel y gosgorddlu yn cychwyn
I'th ymofyn idd eu mysg;
Gwel dy Brynwr, mewn gwên siriol,
Yn ei hardd gyfryngol wisg;
Clyw, mae'r clychau oll yn canu,
I'th groesawu tua thref;
Clyw bereiddlawn seingar donau
Aur delynau côr y nef.

Gwel dy gerbyd wrth yr afon,
Gwel dy goron,—gad dy gledd;
Cymer bellach dawel feddiant
O ogoniant gwlad yr hedd,
Ffarwel iti, collaf bellach
Dy gyfeillach a dy wedd,
Hyd nes cawn gyfarfod eto
Yn y fro tu draw i'r bedd.