Tudalen:Gwaith S.R.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EFELYCHIAD

Y LILI GWYWEDIG.

Galar-gân Mam ar Farwolaeth Maban Mynwesol

Caed Lili teg, mewn hyfryd fan,
Ar gorsen wan yn tyfu;
Ei hawddgar liw, a'i gywrain lun,
Wnai i bob un ei garu;
Ei berchen o anwyldeb âi,
A siriol syllai arno,
Mewn gobaith hoff o'i gadw'n ir
Am dymor hir heb wywo.

Ond ar ddiwrnod tywyll du,
Y gobaith cu ddiflannodd;
Daeth awel oer'nol heulwen haf,
A'r Lili braf a wywodd;
Mae'n awr yn gorwedd yn y llwch,
Heb degwch yn wywedig;
A'i berchen deimla dan ei bron
Ei chalon yn glwyfedig.

Ochenaid ddwys o'i mynwes wan,
Ac egwan lef sy'n codi,—
"A raid im' golli'r olwg ar
Fy hawddgar wiwber Lili?
Flodeuyn hardd! dy golli raid,
Er di-baid dywallt dagrau;
Llwyr ddiflanedig 'nawr yw drych
Dy unwaith harddwych liwiau.

"Dy addurnedig wisgoedd braf,
Eu gweled ni chaf mwyach;
Wrth syllu ar dy le, nid wyf
Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach."
Ar hyn, pan ydoedd natur wan
O dan y groes yn suddo,
I arllwys balm i'r galon brudd
Daeth gwiw Ddiddanydd heibio.