Tudalen:Gwaith S.R.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn dirion (nid i beri braw)
Ei ddeheulaw estynnai;
Cyd-deimlo wnai wrth wrando'i chŵyn,
Ac mewn iaith fwyn dywedai,
"Na wyla mwy,—dy Lili hardd
Sy'n awr yng ngardd paradwys,
Mewn tawel gynnes nefol fro
Yn ail-flodeuo'n wiwlwys.

"Ei nodd, ei ddail, ei arogl pêr,
Ei liwiau têr a hawddgar,
Rhagorach fyrdd o weithiau ŷnt
Nag oeddynt ar y ddaear.
Ei weled gei ar fyr o dro
Yn gwisgo harddwch nefol:
I'r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf,
Lle t'wyna haf tragwyddol."


CAN Y NEFOEDD

Fy enaid blinedig! cwyd d'edyn yn awr,
Ehed trwy'r wybrennau uwch gofid y llawr,
I glywed nefolion yn seinio'r trwy'r nen
Fawl ganiad i'r Iesu, dy Briod a'th Ben.

Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd,
Mor ddisglaer Ei goron, mor siriol Ei wedd;
Aur-seren awdurdod sy'n awr ar y fron
Fu gynt yn llif-waedu o glwy'r waew-ffon.

Angylaidd gantorion gydunant mewn cân
A seintiau fil miloedd, a'u gwisgoedd yn lân;
A bröydd a bryniau tragwyddol y nef
Trwy'r dedwydd ororau adseiniant eu llef.