Dyrchafu yn hyfryd bêr-seiniawl wnai'r gân,
A bywiol orfoledd wnai'r nefoedd yn dân.
Ond sydyn!—pan ydoedd pob telyn mewn hwyl,
A'r udgyrn yn seinio fel ar uchel wyl,—
Wrth daro'r nôd uchaf cydsyniai'r dorf hardd
Ei weled E'n chwysu mewn ing yn yr ardd.
Pan welwyd E'n gwaedu dan hoelion ar bren,
Pan wanwyd Ei fynwes, pan glwyfwyd Ei ben,
Pan yfodd E'r cwpan, pan gollodd fwynhad
Diddanol gysuron gwedd wyneb Ei Dad;
Pan gododd Cyfiawnder i'w erbyn Ei gledd,
Pan welwyd E'n gorwedd yng ngharchar y bedd,
Dyrysodd telynau cantorion y nef,
Ymlaesodd pob aden, distawodd pob llef.
Ar unwaith ymdaenodd tywyllwch fel llen
Dros harddwych drigfanau dedwyddawl y nen;
Cydwywodd y blodau, dadhwyliodd pob tant,
Llesgaodd pob seraff—pob angel—pob sant.
Ond bore'r adgodiad, ar doriad y dydd,
Pan neidiodd y Cadarn o'i gadwyn yn rhydd,
Gan ymdaith o Edom yn amlder ei rym,
Mewn harddwisg borfforaidd, a'i gleddyf yn llym;
Pan gododd hardd-faner trugaredd a hedd,
Ac yn Ei law waedlyd agoriad y bedd,
Gan floeddio'n fuddugol, "Enillais y dydd—
"Gorchfygais bob gelyn—daw'r caethion yn rhydd,"—
Mil myrdd o gantorion, yn gydsain eu llef,
Ail-seinient yr Anthem, hwyl lawen trwy'r nef;
Gan floeddio caniadau, mewn tonau mor bêr,
Nes siglo y bydoedd gan adsain y sêr.
Angylaidd osgorddion ehedent mewn brys
I dywys eu Brenin i orsedd Ei lys;
Ar balmant o berlau olwynai i'r nen,
A'r seirian byrth oesawl ddyrchafent eu pen.
'Nol disgyn o'i gerbyd, ac esgyn Ei sedd,
Ei euraidd deyrnwialen estynnai mewn hedd,
Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad,
Ac anfon i ddynion Ei roddion yn rhad.
Rho heibio 'nawr, f'awen, cyn gorffen dy gân,
Rhag boddi ar unwaith mewn syndod yn lân;
Nid da cynnyg nofio—'rwyt eto'n rhy wan—
Mewn môr o ryfeddod, heb waelod na glan.