Tudalen:Gwaith S.R.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cawn gydgyfarfod fry mewn hedd,
Tudraw i'r bedd yn dawel;
Ac uno i ganu yn ddi-lyth,
Heb achos byth ymadael.



Y CRISTION YN HWYLIO I FÔR GWYNFYD.

Fel morwr cyfarwydd wrth ddedwydd fordwyaw,
Yn troi yn dra medrus ei lyw â'i ddeheulaw,
Gan ganu wrth ledu ei hwyliau claerwynion
I farchog y cefnllif o flaen yr awelon,—
Mae'r Cristion yn gadael anialdir marwoldeb,
Gan hwylio yn dawel i fôr bythol burdeb.
Pan ddel y gorchymyn mae'n lledu ei hwyliau,
Heb ofni'r Iorddonen, nac ymchwydd ei thonnau;
Gan wenu heb ddychryn, wrth gychwyn, mae'n canu,—
"O'm golwg yn gyflym mae'r byd yn diflannu,
Diangaf yn fuan o gyrraedd gofidiau,
Tawelu mae'r gwyntoedd, llonyddu mae'r tonnau,
Mae'r heulwen yn gwenu, a'r wybren yn siriol,
Caf nofio mewn moroedd o wynfyd tragwyddol."



CWYN A CHYSUR HENAINT

Ymgiliodd y gaeaf, mae'r gwanwyn yn gwenu,
Mae'r oenig yn neidio, a'r durtur yn canu;
Mae'r coedydd, a'r dolydd, a'r gerddi'n blodeuo;
A minnau gan nychdod a henaint yn gwywo.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.