Tudalen:Gwaith S.R.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'r i'enctid o'm hamgylch yn heinyf a chryfion,
Yn wridog eu gruddiau, yn llawen eu calon,
Yn siriol gyd-rodio’n finteioedd diddanus,
A minnau fy hunan yn llesg a methiannus.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Bu amser,'rwy'n cofio, pan gynt 'roeddwn innau
Mor heinyf, a bywiog, a gwridog a hwythau,
A'm dwyfron yn llawen, a'm cân yn soniarus;
Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus.
Mae f'einoes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd,
O gyrraedd marwoldeb, i dawel fro gwynfyd;
A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan.
Mae'm calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynu,
A'r heinyf wyr cryfion yn awr yn cyd-grymu;
Swn isel, wrth falu, wna'r felin fethedig,
Ychydig yw'r meini, ac oll yn sigledig.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd,
A llydain byrth mwyniant gan henaint a gauwyd;
Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn,
A baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir,
A phopeth, wrth araf ymlwybro, a ofn;