Tudalen:Gwaith S.R.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae chwant wedi pallu,'does dim rydd ddiddanwch,
Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Y cawg aur a'r piser yn fuan a ddryllir,
Y llinyn ariannaidd a'r olwyn a dorrir;
Ychydig sy'n aros o flodau'r pren almon;
Dadfeilio mae'r babell, llewygu mae'r galon.
Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod,
Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod.

Hosanna!—'Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod,
Mae'n addfed o'r diwedd i fyned i'w feddrod;
Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn dawel,
Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel.
Ac yna, heb lygredd, caiff godi'n dra siriol,
I ddedwydd deyrnasu mewn i'enctid tragwyddol.

Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant,
Caf esgyn i dawel ororau gogoniant,
I dderbyn y palmwydd, y delyn, a'r goron,
A chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion;
Ac yna caf brofi'r gymdeithas a'r gwleddoedd
Sy'n bythol goroni dedwyddwch y nefoedd.


"MAE NHAD WRTH Y LLYW."

Draw, draw ar y cefnfor, ar noson ddu oer,
'Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer;
A rhuad y tonnau, a'r gwyntoedd, a'r gwlaw,
A lanwai fynwesau y morwyr o fraw.