Tudalen:Gwaith S.R.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Er wylo yma lawer dydd
Mewn hiraeth prudd am dano,
Ac edrych draw a welem neb
Yn dod—yn debyg iddo;

"Er clywed fod y môr yn mhell,
Tybiem mai gwell oedd myned,—
Os gallem gyrraedd yno'n dau,
Y caem yn glau ei weled.

"Dan wylo aethom, law yn llaw,
Trwy wynt a gwlaw a lludded,
Gan droi yn wylaidd i bob ty
I holi'r ffordd wrth fyned.

"Gwnai rhai, dan wenu, ymaith droi,
Heb roi i ni ddim cymorth;
Och'neidiai'r lleill wrth wrando'n cwyn,
Gan roddi'n fwyn in ymborth.

"Ond erbyn gweld y môr mawr draw,
Gwnaeth dirfawr fraw ein llenwi;
Ac ofni'r ydym fod ein tad
Anwylfad wedi boddi.

"Ar fedd ein mam 'rym 'nawr o hyd,
Mewn ing a gofid chwerw,
A hiraeth dwys am fod ein dau,
Fel hithau, wedi marw.

"A wyddoch chwi ddim p'le mae'n byw
Y Duw sy'n Dad amddifaid?
Pe gallem ni ryw fodd Ei gael,
Mae Ef yn hael wrth weiniaid.

"Dywedodd mam mai yn y nef
Yr ydoedd Ef yn trigo:-
A d'wedodd llawer wrthym ni,
Heb os, ei bod hi yno.