"Ac os yw mam 'nawr yno'n byw,
Hi dd'wed wrth Dduw am danom;
A disgwyl 'r ym y llwydda hi
Cyn hir i'w yrru atom."
Gwnaeth hyn im' hoff gofleidio'r ddau,
A sychu'u gruddiau llwydion,
A dweyd,—"Fel mam, gofalaf fi
I'ch ymgeleddu'n dirion.
"Na wylwch mwy! Dewch gyda mi,
Rhof ichwi fwyd a dillad,
A dysg, a thŷ, a modd i fyw,
A chewch Dduw'n Dad a Cheidwad.
"Efe yn fwyn a'm gyrrodd i
I ddweyd i chwi Ei 'wyllys:
A diwedd pawb a'i carant Ef,
Yw mynd i'r nef i orffwys."
CYFARCHIAD AR WYL PRIODAS
Tangnefedd a ffyniant, diddanwch a chariad,
Fo rhwymyn a choren eich undeb anwylfad;
Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth,
A'ch epil fo'n enwog dros lawer cenhedlaeth.
Disgleiried eich rhinwedd. A gwneled yr Arglwydd
Eich cylchoedd yn fendith, a'ch ceraint yn dedwydd:
Estynned eich dyddiau i fod yn ddefnyddiol;
Ei eglwys fo'ch cartref, Ei air fyddo'ch rheol.
A rhodded Ei Ysbryd diddanol i'ch tywys
Trwy dd'rysni yr anial i'w nefol baradwys.