Tudalen:Gwaith S.R.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Na rhedeg chwaith o lwybrau'r ne',
I eiste'n lle'r gwatwarwyr.

Dy santaidd waith a'th achos di
A fo mi'n hyfrydwch;
A gwiw gymdeithas D' anwyl blant
Fy mwyniant a'm dyddanwch.

Os caf gysuron ar fy nhaith,
Fy melus waith fydd moli:
Fy noniau oll, o galon rwydd,
I'm Harglwydd gânt eu rhoddi.

Ond os caf gystudd drwy fy oes,
A dwyn fy nghroes mewn galar,
Heb ddim ond gofid ar bob cam,
Gwna fi yn amyneddgar.

Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf
Yn nechreu haf fy mywyd;
Cymhwysa f'enaid, drwy Dy ras,
I deyrnas bythol wynfyd.

Os hir fy nhaith, rho im' Dy hedd,
Nes mynd i'r bedd i orffwys;
Ac yna seiniaf gyda'th blant
Dy foliant ym mharadwys.


CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU

Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad,
'Rwy'n cofio hoff gartref fy mam a fy nhad,
Y babell, a'r goedwig, yr afon, a'r ddôl;
Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ôl.

Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt,
Heb ofid, nac angen, yn llawen fy hynt;
A'm plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu,
Heb neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi.