Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith S.R.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron,
A'r lleill wrth fy ymyl yn cysgi yn llon;
Disgwyliwn fy mhriod, gan sïo’n ddifraw,
Heb feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw.

Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr,
Ar unwaith ymdoddai fy nghalon fel cwyr,—
Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o'r môr,
Gan guro fy mwthyn nes torri y ddôr.

Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd,
mam na thad,
I achub y gweiniaid crynedig rhag brad,
Fe'n llusgwyd, fe'n gwthiwyd, er taered ein cri,
I ddû-gell y gaethlong at gannoedd fel ni.

Wrth riddfan i gyfrif munudau'r nos hir,
A threiglo'n ddiorffwys fy mhen gan ei gur,
Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd,
Yn oer ac yn farw—o'i boenau yn rhydd.

Hoff faban fy mynwes! I'r dyfrllyd oer fedd,
Er gwaetha'r gormeswr, diangaist mewn hedd:
Cei orffwys yn dawel, ni'th werthir byth mwy,
Ac ni rydd y fflangell na'r gadwyn it' glwy,

Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth;
Ond eto mae'th gu-fam anwylaf yn gaeth;
Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon,
A'i sïo i orffwys yn mynwes y don?

Ar ol garw fordaith, a chyrraedd y lan,
A'n didol, a'n gwerthu i fynd i bob man;
Y brawd bach a rwygid o fynwes ei chwaer,
Er mynych lesmeirio wrth lefain yn daer.

Y wraig, wrth ymadael, gusanai ei gŵr,
A'i llygaid toddedig yn boddi mewn dŵr: