Tudalen:Gwaith S.R.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth weld adyn diymgeledd,
Tlawd, yn gorwedd yn Ei waed,
Dan ei faich, yn archolledig
O'i ben ysig hyd Ei draed;
Heb un cyfaill i dosturio,
Heb un balm i'w galon friw,
Codai Iesu lef drugarog
Am i'r euog gwael gael byw.

Gadael uchel sedd gogoniant,
Gadael moliant di-rif lu,
Gadael hardd frenhinol goron
Wnaeth ein tirion Iesu cu;
Disgyn wnaeth ar edyn cariad,
Achub oedd Ei fwriad E',
Daeth o'i fodd i gystudd chweiw,
Daeth i farw yn ein lle.

Yn y preseb, pan yn faban,
Llesg ac egwan gwelwyd Ef:
Isel annedd, gwael ymgeledd,
Gadd Etifedd mawr y nef:
Eto seren gain y dwyrain,
Wenai ar ei lety gwael;
Thus, a myrr, ac aur-anrhegion,
Wrth Ei draed ro'i'r doethion hael.

Dirif luaws sêr y bore,
Drwy'r wybrennau seinient gân,
Gan fwyn ateb cyngan nefol
Y waredol dyrfa lân:
Gras, cyfiawnder, a gwirionedd,
A thrugaredd yn gytun,
Wrth yr orsedd yn hoff wenu
Am gael modd i godi dyn.